Mae 13 o fyfyrwyr coleg oedd ar bicnic wedi boddi tra’n nofio yn y môr yng ngorllewin India.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod 10 merch a thri bachgen wedi cael eu sgubo gan y môr ar ôl iddyn nhw fynd i’r dŵr ar draeth yn nhref Murud, sydd tua 95 milltir i’r de o Mumbai.

Roedd tua 115 o fyfyrwyr ac 11 o athrawon o’r coleg yn nhref Pune wedi mynd i Murud am bicnic.

Bu gwylwyr y glannau a’r heddlu yn chwilio am y myfyrwyr yn y môr.

Yn ôl yr heddlu roedd y myfyrwyr wedi cael eu rhybuddio gan drigolion lleol i beidio mentro yn rhy bell i’r môr ond eu bod wedi anwybyddu’r rhybuddion.