Mae 18 o bobol wedi marw yn dilyn y stormydd eira sydd wedi taro arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau.

Fe fu miliynau o bobol yn ceisio palu eu ffordd allan o’r eira wrth i wyntoedd cryfion achosi difrod yn nhaleithiau’r dwyrain.

Mae cerbydau – ac eithrio cerbydau’r gwasanaethau brys – wedi’u gwahardd rhag defnyddio’r ffyrdd yn Efrog Newydd a Baltimore ac mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd wedi cael ei heffeithio.

Fe allai rhai teithiau ail-ddechrau yn Efrog Newydd yn ddiweddarach ddydd Sul, ond mae disgwyl i feysydd awyr eraill fod ynghau tan ddydd Llun ar ôl i fwy na 7,000 o deithiau gael eu canslo.

Fe fu farw’r 18 o bobol o ganlyniad i ddamweiniau ar y ffyrdd, damweiniau wrth balu trwy’r eira ac o ganlyniad i effeithiau’r oerfel.