Glenn Frey
Mae gitarydd y grwp Eagles, Glenn Frey, wedi marw yn 67 oed.

Bu farw Frey yn Efrog Newydd ddydd Llun – roedd wedi bod yn sâl ers rhai wythnosau.

Ynghyd a Don Henley, fe ysgrifennodd rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd y grŵp fel Hotel California a Life In The Fast Lane.

Roedd Glenn Frey a Don Henley wedi ffurfio’r Eagles yn Los Angeles yn y 70au cynnar ynghyd a’r gitarydd Bernie Leadon a’r basydd Randy Meisner.

Dywedodd datganiad ar wefan y grŵp: “Ni all geiriau gyfleu ein tristwch, na’r cariad a pharch sydd gennym am yr holl a roddodd i ni, ei deulu, y gymuned gerddoriaeth a miliynau o ffans ar draws y byd.”