Mae dau Balesteiniad wedi’u saethu’n farw, wedi iddyn nhw geisio trywanu milwyr ar y Lan Orllewinol, meddai byddin Israel.

Dyma’r digwyddiad diweddara’ mewn tri mis o ymosodiadau gan Balesteiniaid yn erbyn Israeliaid. O fewn y tri mis yma, mae 21 o bobol wedi’u lladd, y rhan fwya’ o ganlyniad i drywanu a thrwy yrru ceir i mewn i adeiladau.

Mae beth bynnag 137 o Balesteiniaid hefyd wedi’u lladd o ganlyniad i gael eu saethu gan Israeliaid.

Mae Israeliaid yn dweud mai ymgyrch gan y Palesteiniaid sydd i gyfri’ am y tywallt gwaed. Ar y llaw arall, mae’r Palesteiniaid yn mynnu fod y cyfan yn deillio o ddegawdau o rwystredigaeth, dan ormes Israel.