Mae tri o dwristiaid o Ewrop a gafodd eu trywanu yn ystod ymosodiad ar westy yn yr Aifft neithiwr, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae anafiadau’r tri – Renata a Wilhelm Weisslein, 72, o Awstria, a Sammie Olovsson, 27, o Sweden – yn rhai ar wyneb y croen, a dydi eu bywydau ddim mewn peryg.

Fe ymosododd dau ddyn ar westy yn Hurghada ar lan y Mor Coch, yn hwyr neithiwr (nos Wener). Fe gafodd y ddau eu saethu gan luoedd diogelwch; bu farw un ohonyn nhw, ac fe gafodd y lladd ei anafu a’i arestio.

Mae’r Aifft wedi bod yn ymladd gwrthryfelwyr ym mhenrhyn gogleddol Sinai byth oddi ar i fyddin y wlad gael gwared â’r cyn arlywydd Islamaidd, Mohammed Morsi, yn 2013.