Gwylnos ym Mharis wedi'r ymosodiadau ar swyddfeydd Charlie Hebdo
Mae heddiw’n nodi blwyddyn yn union ers yr ymosodiadau ar swyddfa’r cylchgrawn dychanol, Charlie Hebdo ym Mharis, a laddodd 12 o bobol.

Ers y deuddydd diwethaf, mae pobol wedi bod yn gadael blodau a chynnau canhwyllau wrth swyddfa flaenorol y cylchgrawn lle gafodd plac ei gyflwyno ddydd Mawrth.

Does dim digwyddiadau swyddogol wedi’u trefnu ond mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, yn annerch aelodau o luoedd diogelwch y wlad ac mae disgwyl iddo roi mwy o bwerau i’r heddlu.

Ar 7 Ionawr y llynedd, fe wnaeth dau frawd, Saïd a Chérif Kouachi fynd i’r swyddfa a dechrau saethu pobol gan ladd 12, ac anafu nifer o rai eraill.

Roedden nhw’n gwrthwynebu sylwadau a chartŵn oedd yn y cylchgrawn yn erbyn y Proffwyd Mohammed.

Cafodd pump o bobol hefyd eu lladd mewn archfarchnad Iddewig gan frawychwyr Islamaidd eraill.

Rhifyn arbennig yn codi gwrychyn

Mae Charlie Hebdo wedi codi gwrychyn eto wrth gyhoeddi rhifyn arbennig i nodi blwyddyn ers y gyflafan.

Mae’r rhifyn yn cynnwys llun o Dduw â gwaed ar ei ddillad ac yn cario dryll Kalashnikov dros ei ysgwydd.

Mae’r pennawd yn dweud: ‘Flwyddyn yn ddiweddarach: mae’r llofrudd allan yno o hyd’.