Mae milwyr India wedi lladd pedwar dyn arfog a orfododd eu ffordd i mewn i safle llu awyr y wlad ar y ffin efo Pacistan. Fe gafodd dau soldiwr hefyd eu lladd yn yr ymladd.

Fe wnaeth y dynion arfog eu ffordd i mewn i safle Pathankot, tua 267 milltir i’r gogledd o Delhi Newydd, cyn iddi wawrio.

Mae’r awdurdodau’n dweud fod pedwar o “ymosodwyr” wedi’u lladd yn dilyn brwydr a barodd rai oriau, a bod yr heddlu wedi dechrau ar ymgyrch i glirio’r ardal o ymosodwyr posib eraill.

Mae safle Pathankot, yn nhalaith Punjab, ar y fford sy’n cysylltu Jammu a thalaith Kashmir (lle mae nifer o wrthryfelwyr yn byw) gyda gweddill y wlad. Mae’r safle hefyd yn agos iawn i’r ffin gyda Phacistan.