Yn ei bregeth blwyddyn newydd, mae’r Pab Ffransis wedi dweud ei bod hi’n bryd rhoi’r gorau i agwedd ddifater ynghylch anghyfiawnder, erledigaeth, rhyfel a dioddefaint yn y byd.

“Mae pobol yn methu deall sut y mae pobol bwerus y byd yn gallu bod mor ddifater ynglyn a’r gwan, a’u gadael nhw i fyw mewn amodau ofnadwy ar gyrion ein byd,” meddai Ffransis mewn gwasanaeth yn y Basilica heddiw.

“Mae dynion, merched a phlant yn mentro’u bywydau yn dianc rhag rhyfel, newyn ac erledigaeth,” meddai wedyn.

“Mae’n rhaid i bobol y byd hwn roi o’r neilltu eu niwtraliaeth ffug sy’n eu rhwystro nhw rhag rhannu gyda’r gwan a’r tlawd.”