Mae mwy na 100 o gartrefi wedi’u dinistrio gan danau yn ne Awstralia.

Mae swyddogion tân talaith Victoria yn dweud fod tymheredd is heddiw yn lleddfu tipyn ar yr amgylchiadau yn yr ardal, ond maen nhw’n rhybuddio y gallai’r fflamau losgi am rai wythnosau eto.

Does neb eto wedi cael ei anafu na’i ladd yn y tanau sydd bellach wedi dinistrio 116 o gartrefi yn nhrefi bychan Wye River a Separation Creek.

Fe dreuliodd ymladdwyr tân Ddydd Nadolig yn ceisio diffodd y fflamau a gafodd eu cynnau’n wreiddiol gan fellten. Mae miloedd o bobol wedi’u symud o’u tai, rhag ofn.