Mae dwsinau o bobol ar goll yn dilyn tirlithriad mewn ardal anghysbell o ogledd Myanmar (Burma).

Fe ddigwyddodd y tirlithriad ddoe yn Hpakant yn nhalaith Kachin, lle mae nifer o weithfeydd sy’n cloddio am gerrig lliwgar.

Dim ond un corff gafodd ei dynnu allan o’r rwbel, ac mae “beth bynnag 30 o bobol ar goll” yn ôl pobol leol. Nid yw’r heddlu wedi cadarnhau na gwrthod yr adroddiadau hynny eto.

Fe fu tirlithriad yn yr union ardal hon ym mis Tachwedd eleni, ac fe gafodd mwy na 100 o bobol eu lladd bryd hynny.