Mae torf wedi fandaleiddio ystafell weddi Fwslimaidd yn Corsica, ddiwrnod yn unig wedi iddyn nhw ymosod ar ymladdwyr tân oedd yn trio gwneud eu gwaith ar yr ynys.

Fe ddechreuodd yr ymladd a’r trais nos Iau, pan ddaeth ymladdwyr tân allan i geisio diffodd y fflamau mewn stad o dai yn Ajaccio.

Yna, ddoe, fe drodd pethau’n flêr pan gafodd ystafell weddi ei fandaleiddio a phan geisiodd rhai losgi copïau o’r Koran a llyfrau gweddi. Mae plismyn bellach ar ddyletswydd yn gwarchod ystafelloedd gweddi eraill yn Corsica.

Mae prif weinidog Ffrainc, Manuel Valls, wedi galw am barchu cyfraith Ffrainc wedi’r “trais annioddefol tuag at ymladdwyr tân”.