Mae holl ysgolion cyhoeddus o fewn ardal Los Angeles wedi cael gorchymyn i gau heddiw oherwydd bygythiad i ddiogelwch disgyblion.

Fe ddywedodd swyddogion eu bod wedi derbyn bygythiad electronig, a’u bod yn parhau i’w ddadansoddi.

Maen nhw’n esbonio fod y gorchymyn i gau yn weithred sy’n sicrhau “digon o ofal.”

Fe fydd yr ysgolion yn parhau ynghau hyd nes y bydd y bygythiad wedi dod i ben a disgwylir hynny erbyn diwedd y dydd heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 15).

Fe ddywedodd Llywydd Bwrdd yr Ysgolion, Steve Zimmer, “mae angen i Los Angeles gyfan gydweithredu heddiw.”

“Mae angen i deuluoedd a chymdogion weithio gyda’i gilydd, gyda’u hysgolion a gyda’u cyflogwyr er mwyn sicrhau fod ein hysgolion yn ddiogel drwy gydol y dydd.”

Mae 640,000 o ddisgyblion yn Ysgol Unedig Ardal Los Angeles – gan gynnwys plant o oedran meithrin hyd at ddosbarth 12. Mae mwy na 1,000 o ysgolion o fewn yr ardal, sy’n ei gwneud hi’r ail fwyaf yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r ardal yn ymestyn dros 720 o filltiroedd sgwâr gan gynnwys Los Angeles a rhannau o 30 o ddinasoedd eraill.