Mae lluoedd Israel yn dweud eu bod wedi rhwystro dau ymosodiad ar y Lan Orllewinol heddiw, gan ladd Palesteiniad oedd yn ceisio gyrru ei gar yn syth at filwyr, a chan anafu ail ddyn a ddechreuodd saethu at filwyr.

Fe gafodd Palesteiniad arall ei ladd yn ystod gwrthdaro gyda milwyr yn ninas Hebron.

Dyma’r achosion diweddara’ o dywallt gwaed mewn cyfnod o bron i dri mis o ymosodiadau gan Balesteiniaid ar filwyr Israel.

Yr ymsoodiadau 

Yn ol y fyddin, fe geisiodd dyn yrru ei gar i ganol grwp o filwyr Israel ger Hebron. Maen nhw wedi cyhoeddi ei enw, Issa Hroub, 55 oed, o bentre’ Deir Samet gerllaw.

Yn gynharach yn y dydd, fe saethodd gwr arfog at filwyr oedd yn plismona man croesi i mewn i’r Lan Orllewinol. Fe gafodd ei anafu yn y gwrthdaro, ac fe ddihangodd o’r fan ger Jenin, meddai Gweinyddiaeth Amddiffyn Israel.

Hefyd yn Hebron heddiw, bu farw’r Palesteiniad 22 oed, Oday Ersheid, mewn gwrthdaro rhwng dynion ifanc oedd yn taflu cerrig, a milwyr Israel. Roedd yn frawd i’r disgybl ysgol, Dania Ersheid, a gafodd ei saethu’n farw gan heddlu’r fin yn Hebron ddiwedd Hydref eleni.