Sydney o'r awyr (Gnagarra CCA2.5)
Mae pump o bobol yn wynebu cyhuddiadau brawychol wrth i ymchwiliad barhau i gynllwyn honedig i ymosod ar adeiladau’r Llywodraeth yn Sydney, Awstralia.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu dros ddiogelwch cenedlaethol Awstralia,  Michael Phelan, fod bachgen 15 oed a dyn 20 oed o orllewin Sydney wedi cael eu harestio a’u cyhuddo o  gynllwynio i baratoi ar gyfer gweithred frawychol.

Fe fydd y tri pherson arall, sydd wedi’u carcharu eisoes ar gyhuddiadau brawychol eraill, hefyd yn cael eu cyhuddo o’r un drosedd yn ddiweddarach heddiw.

Dywedodd swyddogion nad oedd yr arestiadau yn gysylltiedig â bygythiad brawychol newydd, ond yn gysylltiedig â chynllwyn a ddaeth i’r amlwg wedi cyrchoedd gan yr Heddlu yn Sydney ym mis Rhagfyr 2014.

Roedd y cynllwyn honedig hwnnw yn cynnwys bwriad i dargedu adeilad y llywodraeth yn y ddinas.