Llygredd aer
Mae problemau llygredd aer yn gwaethygu ym mhrifddinas Tsieina wrth i fwrllwch trwchus ddal ei afael ar Beijing am y pumed diwrnod yn olynol.

Mae ysgolion yn cadw disgyblion i mewn mae rhieni wedi bod yn mynd â’u plant i’r ysbyty â phroblemau anadlu.

Y tu allan i ysbyty i blant gorlawn yng nghanol Beijing, roedd rhieni yn cwyno am effaith y llygredd ar blant bach, gan ddweud ei fod yn gwneud eu plant yn agored i heintiau a’r ffliw.

Mae lefel gronynnau PM2.5 gwenwynig wedi cyrraedd dros 600 microgram fesul medr ciwbig ledled Beijing. Lefel ddiogel Sefydliad Iechyd y Byd yw 25.

Ac roedd rhai ardaloedd y tu allan i’r ddinas wedi cyrraedd mwy na 900 ddydd Llun.

Arlywydd Tsiena yng nghynhadledd newid hinsawdd Paris

Mae’r cynnydd yn y llygredd yn atgoffa’r byd o’r heriau amgylcheddol difrifol sy’n wynebi Tsieina wrth i’r Arlywydd Xi Jinping ymuno ag arweinwyr byd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis.

Mae dinasoedd Tsieina ymhlith y rhai mwyaf brwnt yn y byd ar ôl tri degawd o dwf economaidd sylweddol a arweiniodd at adeiladu cannoedd o ganolfannau pŵer glo ac at fwy o bobol yn berchen ar geir.

Mae arweinwyr y wlad wedi tynhau safonau allyriadau ac maen nhw’n buddsoddi mewn ynni solar, gwynt ac ynni adnewyddadwy. Ond mae’r wlad yn dal i ddibynnu ar lo am dros 60% o’i hynni.

Y tu allan i Beijing, roedd yr awdurdodau wedi cau 1,553 o rannau o’r ffyrdd mawr yng nghanol, dwyrain a de Tsiena oherwydd niwl trwchus, yn ôl y Weinyddiaeth Drafnidiaeth ar ei gwefan.

Mae disgwyl i wyntoedd glirio’r llygredd cyn dydd Mercher.