Ahmet Davutoglu
Mae Prif Weinidog Twrci wedi dweud na fydd ei wlad yn ymddiheuro i Rwsia am saethu awyren filwrol i’r llawr a oedd wedi croesi o ofod awyr Syria i Dwrci.

Dywedodd Ahmet Davutoglu ei fod hefyd yn gobeithio y bydd Moscow yn ail-ystyried sancsiynau economaidd a gyhoeddwyd yn erbyn Twrci yn sgil y digwyddiad wythnos ddiwethaf.

Ychwanegodd na fyddai “prif weinidog nac arlywydd Twrci yn ymddiheuro… am ein bod yn gwneud ein dyletswydd.”

Daeth ei sylwadau ar ôl cwrdd â phennaeth Nato ym Mrwsel a dywedodd bod Twrci yn barod i gynnal trafodaethau gyda Rwsia ynglŷn â ffyrdd i osgoi digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.

Mae Rwsia yn mynnu nad oedd yr awyren wedi mynd i ofod awyr Twrci ac mae’r Arlywydd Vladimir Putin wedi gwrthod cymryd galwadau gan Arlywydd Twrci, gan nad yw’r wlad wedi ymddiheuro.