Mae o leiaf 100 o bobol wedi cael eu harestio ym Mharis wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn protestiadau ar drothwy uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn y ddinas.

Trodd un o’r protestiadau’n dreisgar wrth i’r heddlu herio’r protestwyr yn y Place de la Republique, un o’r ardaloedd a gafodd eu heffeithio gan ymosodiadau brawychol a laddodd 130 o bobol ddechrau’r mis.

Dywed y wasg yn Ffrainc fod yr heddlu wrthi’n symud protestwyr i ffwrdd o’r ardal.

Yn gynharach ddydd Sul, aeth cadwyn ddynol drwy’r ddinas am 1.9 milltir i orffen gorymdaith a gafodd ei chanslo yn sgil y digwyddiadau ar Dachwedd 13.

Ffurfiodd y dorf fwlch yn y gadwyn wrth gerdded heibio neuadd y Bataclan, lle cafodd 89 o bobol eu lladd.

Cafodd cannoedd o barau o esgidiau eu gosod ar hyd y Place de la Republique, gan gynnwys esgidiau a gafodd eu rhoi gan y Pab Ffransis fel arwydd o gefnogaeth i’r ymgyrch.