Bydd corff peilot o Rwsia a gafodd ei ladd pan gafodd ei awyren ei saethu i lawr gan awdurdodau Twrci yn cael ei gludo yn ôl i Rwsia yn ystod y dydd.

Dywedodd Prif Weinidog Twrci, Ahmet Davutoglu fod corff Oleg Peshkov yn nhalaith Hatay yn barod i’w hedfan i Rwsia.

Cafodd seremoni grefyddol ei chynnal yn y rhanbarth.

Cafodd yr awyren F-16 ei saethu i lawr ddydd Mawrth yn dilyn adroddiadau bod y peilot wedi mentro i dir Twrci o Syria yn anghyfreithlon.

Llwyddodd y ddau beilot i ddianc o’r awyren ond cawson nhw eu saethu gan filwyr troed Syria.

Ddydd Sadwrn, galwodd arlywydd Rwsia, Vladimir Putin am gyflwyno sancsiynau yn erbyn Twrci yn sgil y digwyddiad.