Y Pab (Llun: PA)
Fe fydd y Pab Ffransis yn galw am heddwch wrth iddo ymweld â Gweriniaeth Ganolog Affrica, lle mae mwy na miliwn o bobol wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi oherwydd trais.

Roedd disgwyl i’r Pab ganslo’i ymweliad â’r wlad cyn cau pen y mwdwl ar ei daith i Affrica.

Ers blwyddyn a mwy, fe fu brwydrau ffyrnig ar y strydoedd rhwng Cristnogion a Mwslemiaid, ac mae mwy na 100 o bobol wedi cael eu lladd yn ystod y deufis diwethaf.

Ond y gobaith yw y gallai neges heddwch y Pab gael effaith ar y wlad yn y tymor hir.

Fe fydd y Pab yn ymweld â chymunedau Cristnogol a Moslemaidd, gan gyfarfod ag arweinwyr cymunedol.

Ddydd Sadwrn, dywedodd Arlywydd y wlad, Catherine Samba-Panza mai “negesydd heddwch” yw’r Pab, a bod disgwyl mawr amdano.

“Mae nifer o Affricanwyr Canol yn gobeithio y bydd ei negeseuon yn ysbrydoli cenedl ac yn arwain at sylweddoliad fod Affricanwyr Canol yn dysgu derbyn ei gilydd unwaith eto, dysgu cyd-fyw unwaith eto a dysgu sut i symud tuag at heddwch ac ail-adeiladu eu gwlad.”