Mae tri o bobl wedi cael eu lladd ar ôl wrth i ddyn saethu at bobl o’i gwmpas mewn clinig atal cenedlu yn nhalaith Colorado yn America.

Cafodd y saethwr ei arestio wedi brwydr arfog a barhaodd am oriau yn Colorado Springs.

Cafodd naw o bobl eraill eu hanafu, gan gynnwys pum plismon, a phlismon hefyd oedd un o’r tri a gafodd eu lladd.

Parhau’n ddirgelwch mae cymhellion y saethwr, a gafodd ei enwi’n ddiweddarach fel Robert Lewis Dear o Ogledd Carolina.

“Nid oes gennym unrhyw wybodaeth am gyflwr meddwl yr unigolyn, na’i syniadau na’i ideoleg,” meddai llefarydd ar ran heddlu Colorado.