Mae Aids yn lladd mwy o bobol ifanc deg i 19 oed nag unrhyw beth arall yn Affrica, yn ôl UNICEF.

Bu i nifer y meirw dreblu ers 2000, a hynny am nad yw digon o driniaeth wedi ei anelu at y bobol ifanc yn ôl Craig McClure o adran HIV ac Aids UNICEF.

Mewn cynhadledd yn Ne Affrica i drafod y broblem, dywedodd Mani Djelassem, ymgyrchydd 17 oed gafodd ei geni gydag Aids, ei bod yn hollbwysig addysgu pobol ifanc am yr haint a’r feddyginiaeth fu mor hanfodol i achub ei bywyd.