Francoise Hollande (Pablo Tupin-Noriega Wikimedia France CCA 4.0)
Mae Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi dweud y bydd Rwsia a Ffrainc yn cyd-drefnu eu hymosodiadau milwrol yn erbyn y mudiad jihadaidd IS.
Ond, wrth siarad ar ôl trafodaethau ym Moscow gyda Vladimir Putin, pwysleisiodd Francois Hollande ei farn bersonol nad oes lle i Arlywydd Syria, Bashar Assad, yn nyfodol y wlad – er mai Rwsia yw ei gefnogwyr penna’.
Galwodd am ffurfio llywodraeth dros dro a fyddai’n drafftio cyfansoddiad newydd ac yn cynnal etholiadau democrataidd.
Putin yn cadarnhau
Cadarnhaodd Vladimir Putin bod Moscow a Ffrainc wedi cytuno i gydlynu gwaith eu byddinoedd a gwella’r ffordd mae nhw’n cyfnewid gwybodaeth.
Ond dywedodd Arlywydd Rwsia hefyd y dylai tynged Bashar Assad gael ei benderfynu gan bobol ei wlad.
Ychwanegodd fod byddin Syria yn “gynghreiriad naturiol” i unrhyw ymdrech ryngwladol yn erbyn IS, ac ychwanegodd ei fod e a Francois Hollande wedi cytuno i beidio ag ymosod ar unrhyw grwpiau eraill sy’n ymladd yn erbyn y jihadwyr.