Ni fydd mam a adawodd ei babi newydd mewn preseb mewn eglwys yn Efrog Newydd yn cael ei herlyn.

Cafodd y fam ei holi gan yr heddlu ar ôl iddi adael ei phlentyn yn yr Eglwys yn Richmond Hill, Queens.

Dywedodd Twrne Queens, Richard Brown, bod y fam yn credu y byddai ei babi mewn lle cynnes ac y byddai’n cael ei ddarganfod yn rhywle diogel.

Cafodd y babi ei ddarganfod gan aelod o staff yr eglwys bnawn dydd Llun, ar ôl cael ei glywed yn crio. Roedd wedi ei lapio mewn lliain a chafodd ei gludo i’r ysbyty lle mae mewn cyflwr iach, meddai’r heddlu.

Mae cyfraith yn Efrog Newydd yn golygu bod modd gadael babi yn ddienw mewn eglwys, ysbyty, neu orsaf yr heddlu heb wynebu camau cyfreithiol.

Ond mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i’r plentyn gael ei adael gyda rhywun neu fod yn rhaid i’r awdurdodau gael eu hysbysu ar unwaith.

Ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn  a arweiniodd at ymchwiliad i ddod o hyd i’r fam.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i beidio erlyn y fam, dywedodd Richard Brown ei bod wedi dilyn ysbryd y gyfraith gan gredu bod ei phlentyn mewn lle diogel a’i bod wedi dychwelyd y bore canlynol i sicrhau ei fod wedi’i ddarganfod.