Mae arweinwyr rhyngwladol wedi galw am leihau’r tensiynau ar ôl i Dwrci saethu awyren filwrol Rwsiaidd i’r llawr ddoe.

Dywedodd Twrci ei fod wedi saethu’r awyren i’r llawr ar ôl i’r peilotiaid anwybyddu sawl rhybudd ei bod wedi mynd i ofod awyr Twrci ger y ffin a Syria.

Ond mae Moscow yn mynnu nad oedd yr awyren wedi gadael gofod awyr Syria.

Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wedi rhybuddio  y bydd “goblygiadau difrifol” yn codi o’r digwyddiad ac mae’r tensiynau rhwng Rwsia Nato wedi cynyddu.

Dyma’r tro cyntaf ers hanner canrif i un o wledydd Nato saethu awyren o Rwsia i lawr, ac fe arweiniodd y digwyddiad at gyfarfod brys.

Fe lwyddodd y ddau beilot i ddianc o’r awyren mewn parasiwtau, ond fe gafodd un ei saethu gan wrthryfelwyr Syria. Nid yw’n glir beth oedd tynged yr ail beilot.

Cafodd hofrennydd oedd yn chwilio am y peilotiaid hefyd ei saethu i’r llawr gan y gwrthryfelwyr, gan ladd un milwr.

‘Cefnogi Twrci’

Cadarnhaodd swyddogion o’r Unol Daleithiau bod yr awyren wedi hedfan dros Dwrci am ddwy filltir cyn cael ei saethu.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Jens Stoltenberg fod y mudiad yn cefnogi Twrci.

Mae ffrae hirdymor rhwng Rwsia a Nato, wrth i Rwsia gyhuddo’r mudiad o groesi ei ffiniau’n gyson, ac maen nhw hefyd yn gwrthwynebu ymdrechion Twrci i ansefydlogi Arlywydd Syria, Bashar Assad.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama yn mynnu bod gan Dwrci “yr hawl i warchod ei thiriogaeth a’i gofod awyr”.

Galwodd hefyd ar i Rwsia ganolbwyntio ar drechu’r Wladwriaeth Islamaidd yn Syria – mae nifer eisoes wedi’u cyhuddo o ganolbwyntio ar gryfhau statws a grym Assad yn Syria.