Vladimir Putin
Mae Arlywydd Rwsia wedi rhybuddio y bydd “goblygiadau difrifol” i berthynas ei wlad â Thwrci ar ôl i awdurdodau’r wlad saethu awyren filwrol Rwsiaidd i’r llawr.

Mae Gweinidog Tramor Rwsia, Sergey Lavrov hefyd wedi canslo ymweliad â’r wlad a oedd i ddechrau dydd Mercher.

Mae awdurdodau Twrci yn honni bod yr awyren wedi mynd i’w gofod awyr a bod y peilotiaid wedi anwybyddu sawl rhybudd ganddyn nhw, ond yn ôl Rwsia roedd yr awyren  “dros diriogaeth Syria drwy gydol yr amser.”

Roedd Twrci eisoes wedi cwyno bod awyrennau Rwsia, sy’n rhoi cefnogaeth i Arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi bod yn hedfan dros y ffin.

Mae Twrci wedi galw am gyfarfod brys gydag aelodau NATO yn dilyn y digwyddiad, er mwyn eu briffio ynglŷn â’r digwyddiad, ac mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal prynhawn ‘ma.

Dywedodd Prif Weinidog Twrci, Amhet Davutoglu, bod gan y wlad yr hawl i “gymryd pob math o fesurau” yn erbyn Rwsia a galwodd hefyd ar y gymuned ryngwladol i weithio tuag at “ddiffodd y tân sy’n llosgi’n Syria.”

Mae David Cameron wedi annog Prif Weinidog Twrci i sicrhau bod Ankara yn parhau i gyfathrebu’n uniongyrchol  gyda Moscow er mwyn osgoi dwysau’r tensiynau rhwng y ddwy wlad.

Gwrthryfelwyr wedi lladd un peilot

Roedd yr awyren Rwsiaidd wedi bod yn rhoi cymorth i luoedd Syria mewn ardal sy’n cael ei reoli gan  nifer o grwpiau o wrthryfelwyr gan gynnwys cangen al-Qaida yn Syria, y Nusra Front, ynghyd a’r grwpiau  2nd Coastal Division a’r 10th Coast Division.

Yn ôl Jahed Ahmad, llefarydd ar ran gwrthryfelwyr y 10th Coast Division yn Syria, roedd eu lluoedd wedi saethu at y ddau beilot ar ôl iddyn nhw ddianc o’r awyren mewn parasiwtau, gan ladd un ohonyn nhw. Nid yw’n glir beth oedd tynged yr ail beilot ond dywedodd Jahed Ahmad bod gwrthryfelwyr yn chwilio amdano.

Dywedodd  llefarydd ar ran y gwrthryfelwyr y byddan nhw’n ystyried rhyddhau corff y peilot yn gyfnewid am garcharorion sy’n cael eu cadw yn Syria.