Mae un o brif swyddogion meddygol Ebola, wedi cadarnhau fod bachgen yn ei arddegau o Liberia wedi marw o’r clefyd ddydd Llun.

Dyma’r farwolaeth gyntaf yn sgil Ebola yn Liberia ers Gorffennaf eleni.

Mae Liberia yn un o’r tair gwlad yng ngorllewin Affrica a effeithiwyd fwyaf gan y clefyd, gyda’r gwledydd eraill yn cynnwys Sierra Leone a Guinea.

Bu farw’r bachgen 15 oed nos Lun, ac roedd yn byw Paynesville, rhan ddwyreiniol o Liberia.

Ef oedd y claf cyntaf i ddioddef o’r clefyd yn y wlad ers i Liberia gael ei chyhoeddi’n rhydd o Ebola am yr eildro ym mis Medi.

Mae tad a brawd y bachgen yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd mewn uned arbenigol, ac mae’r fam a dau o blant eraill yn aros gyda nhw.

 ‘Risg uchel’

Mae swyddogion iechyd wedi adnabod 160 o bobl eraill a allai fod mewn risg o fod wedi’u heintio â’r clefyd.

Mae’r rhain yn cynnwys 8 o ofalwyr iechyd – “ac maen nhw mewn risg uchel am iddyn nhw fod mewn cyswllt uniongyrchol â’r bachgen” meddai Sorbor George, llefarydd iechyd y wlad.

Cyhoeddwyd Liberia yn rhydd o Ebola ym mis Mai 2015, ond bu farw dau wedi hynny, a’r diwethaf ym mis Gorffennaf. Ym mis Medi, fe gyhoeddwyd bod y wlad yn rhydd o Ebola am yr eildro.

Mae mwy na 11,300 o farwolaethau wedi’u cofnodi ers i’r clefyd dorri a’i gadarnhau ym mis Mawrth 2014, gyda 4,800 o farwolaethau yn Liberia.