Awyren filwrol o Rwsia ar ol cael ei saethu gan Dwrci
Bydd NATO yn cynnal cyfarfod brys y prynhawn ‘ma ar ôl i Dwrci saethu awyren filwrol Rwsiaidd i’r llawr.

Bydd cyngor rheoli’r sefydliad, sy’n cynnwys aelodau o Ewrop a Gogledd America, yn cwrdd ym Mrwsel i drafod y “digwyddiad difrifol iawn” ac i geisio sicrhau nad yw’r rhyfel yn Syria yn ehangu i wledydd eraill.

Fe wnaeth awdurdodau Twrci honni bod yr awyren wedi mynd i’w gofod awyr a bod y peilotiaid wedi anwybyddu sawl rhybudd ganddyn nhw, ond yn ôl Rwsia roedd yr awyren  “dros diriogaeth Syria drwy gydol yr amser.”

Mewn datganiad, fe ddywedodd Swyddfa Dramor Prydain bod yr awyren wedi cael ei saethu “yn agos i’r ffin rhwng Twrci a Syria” heb nodi ym mha wlad oedd yr awyren ar y pryd.

“Yn amlwg mae hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn ond byddai’n annoeth i wneud sylw pellach nes ein bod yn sicr o’r ffeithiau,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

Fe wnaeth NATO gadarnhau y byddai “cyfarfod eithriadol o’r Cyngor” yn cael ei gynnal prynhawn ma.

Mae Twrci, sy’n aelod o NATO, eisoes wedi cwyno am gyrchoedd Rwsia yn yr awyr a’r mis diwethaf fe wnaeth y gynghrair gondemnio Rwsia am “ymyrryd â gofod awyr Twrci.”

 

Cameron yn gosod ei gynlluniau

Daw’r digwyddiad wrth i Brif Weinidog Prydain baratoi i gyflwyno ei achos dros gynnal ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.

Bydd David Cameron yn datgan ei gynllun ddydd Iau ar sut i fynd i’r afael a’r grŵp brawychol yn ei gadarnleoedd yn Syria.

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol ddydd Llun y byddai’n gadael iddyn nhw ystyried ei gynigion dros y penwythnos cyn cael dadl a phleidlais ar y mater.