Mae pobl yn yr Unol Daleithiau wedi cael rhybudd i fod yn wyliadwrus wrth deithio, yn enwedig yn ystod y gwyliau, oherwydd y bygythiad cynyddol o ymosodiadau brawychol ar draws y byd.

Mae’r rhybudd i deithwyr, a fydd yn parhau hyd at 24 Chwefror, yn dweud bod gwybodaeth gyfredol yn awgrymu bod milwriaethwyr sy’n rhan o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), al-Qaida, Boko Haram a grwpiau brawychol eraill yn parhau i gynllwynio ymosodiadau mewn nifer o wledydd.

Dywedodd yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau y bydd y tebygolrwydd o ymosodiadau brawychol yn parhau wrth i aelodau o IS ddychwelyd o Syria ac Irac.