Mae adroddiad newydd yn honni fod methiannau Sefydliad Iechyd y Byd wedi chwarae “rhan allweddol” yn nhrychineb Ebola yng ngorllewin Affrica.

Fe ddechreuodd yr epidemig yn Rhagfyr 2013, gyda’r heintiau cynnar yn cael eu canfod mewn ardal anghysbell o Guinea, gyda 11,000 yn colli eu bywydau wedi hynny.

Mae panel o 20 o arbenigwyr annibynnol wedi galw am welliannau i ymateb Sefydliad Iechyd y Byd wrth ddelio â’r argyfwng.

Roedd yr adroddiad yn feirniadol nad oedd Sefydliad Iechyd y Byd wedi llwyddo i ymateb yn ddigon cyflym i’r arwyddion cynnar yn 2014.

‘Gwella’r ffocws’

Fe wnaeth Banc y Byd gyfrannu £131.19 miliwn i’r argyfwng, gyda nifer o wledydd, cwmnïau a phrifysgolion yn cyflwyno cyfyngiadau teithio.

Ond dim ond ym mis Awst y cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd statws o argyfwng cyhoeddus rhyngwladol i Ebola.

Mae’r adroddiad wedi galw am 10 o welliannau i’r Sefydliad wrth atal ac ymateb i glefydau tebyg yn y dyfodol.

Roedd y rheiny’n cynnwys gwella’r ffocws a’r modd y caiff y sefydliad ei lywodraethu, ynghyd â chreu cronfa ryngwladol i gefnogi ymchwil a datblygiad.

Fe ddywedodd yr Athro Peter Piot, cyfarwyddwr ysgol Glendid a Meddyginiaeth Drofannol Llundain, ac un a gyfrannodd at ddarganfod y firws Ebola:

“Mae angen inni gryfhau cymwyseddau ar draws y gwledydd i ganfod, adrodd ac ymateb yn gyflym i glefydau bach er mwyn eu hatal rhag dod yn argyfyngau ar raddfa fawr.”