Heddlu Gwlad Belg ar batrol ym Mrwsel neithiwr
Mae’r heddlu yng Ngwlad Belg wedi arestio 16 o bobl mewn 22 o gyrchoedd gwrth-frawychiaeth dros nos, meddai erlynwyr.

Serch hynny, mae Salah Abdeslam, sy’n cael ei amau o fod yn rhan o’r ymosodiadau ym Mharis, yn parhau ar ffo.

Dywedodd yr erlynydd ffederal Eric Van Der Sypt na chafwyd hyd i ddrylliau na ffrwydron yn y cyrchoedd. Cafodd 19 o gyrchoedd eu cynnal yn ardal Molenbeek a rhanbarthau eraill ym Mrwsel a thri yn Charleroi yn y de.

Daeth y cyrchoedd wrth i fesurau diogelwch yn y wlad gael eu tynhau gyda channoedd o filwyr ar batrôl yn y brifddinas.

Mae Brwsel yn parhau ar ei lefel uchaf o wyliadwriaeth yn sgil yr ymosodiadau ym Mharis dros wythnos yn ôl pan gafodd 130 o bobl eu lladd. Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.

Bygythiad ‘difrifol’

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Charles Michel y bydd ysgolion a phrifysgolion ym Mrwsel ynghau heddiw, oherwydd bygythiad “difrifol”. Mae rhwydwaith trenau tanddaearol y ddinas yn parhau ynghau a fydd yn atal y ddinas rhag dychwelyd i wythnos waith arferol.

“Rydym yn ofni ymosodiad fel un Paris, gyda nifer o unigolion, efallai mewn sawl lle,” meddai Charles Michel ar ôl cadeirio cyfarfod gyda Chyngor Diogelwch Gwlad Belg.

Credir bod Salah Abdeslam wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd a’i fod wedi croesi i Wlad Belg y diwrnod canlynol. Mae ei frawd Mohamed Abdeslam wedi gwneud apêl ar deledu Gwald Belg yn galw arno i ildio i’r heddlu.

Ond dywedodd y gweinidog Jan Jambon na fyddai’r bygythiad yn diflannu petai nhw’n dod o hyd i Salah Abdeslam gan eu bod nhw’n chwilio am nifer o bobl mewn cysylltiad ag ymosodiadau posib ym Mrwsel.

Roed nifer o’r rhai a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymosodiadau ym Mharis yn byw ym Mrwsel, gan gynnwys Abdelhamid Abaaoud, a gynllwyniodd yr ymosodiadau ac a gafodd ei ladd gan yr heddlu yn Ffrainc ddydd Mercher.

Yn y cyfamser fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn cwrdd ag Arlywydd Ffrainc ym Mharis heddiw  cyn i Francois Hollande deithio i Washington a Moscow yn ddiweddarach yn yr wythnos i bwyso am glymblaid ryngwladol gryfach yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).