Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn adroddiadau bod bom ar awyren o Dwrci.
Cafodd yr awyren, oedd yn teithio i Istanbul, ei dargyfeirio o Efrog Newydd i Ganada.
Roedd 256 o deithwyr ar yr awyren ar y pryd.
Roedd yr awyren eisoes yn yr awyr pan gafodd y bygythiad ei dderbyn.
Dywedodd maes awyr Halifax Stanfield fod yr awyren wedi glanio’n ddiogel a bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad.
Dydy heddlu Nova Scotia ddim wedi gwneud sylw am y mater.