Theresa May - eisiau tynhau'r fasnach ynnau anghyfreithlon (Llun y Blaid Geidwadol)
Mae disgwyl y bydd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno i dynhau mesurau diogelwch a rheoli nifer y bobol sy’n cael dod i mewn i’r cyfandir, yn sgil ymosodiad Paris.

Fe fydd gweinidogion cartref yn cyfarfod ym Mrwsel heddiw i drafod eu hymateb union wythnos wedi’r ymosodiad gan grŵp IS a laddodd 129 o bobol.

Mae Llywodraeth Ffrainc wedi galw am fesurau llymach a hithau’n ymddangos bod y dyn sy’n cael ei amau o drefnu’r ymosodiadau wedi dod i mewn i Ewrop er ei fod ar restr cudd-wybodaeth yr awdurdodau.

Galw am reoli masnach ynnau

Ac mae Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig wedi galw am well rheolaeth ar fasnach arfau anghyfreithlon yn Ewrop.

Cyn mynd am y cyfarfod, fe ddywedodd Theresa May fod  yna “gysylltiad amlwg” rhwng diogelwch ffiniau Ewrop a diogelwch y tu mewn i’r Undeb.

“Fydden i’n hoffi gweld holl aelodau’r Undeb yn ymrwymo i wella’r mesurau a’r cosbau wrth ddelio gyda rhai sy’n masnachu gynnau,” meddai.

Ffôn yn gliw allweddol

Mae’r heddlu yn Ffrainc bellach wedi lladd Abdelhamid Abaaoud, jihadydd ifanc o Wlad Belg a oedd wedi mynd i ymladd yn Syria, ac sy’n cael ei amau o gynllunio ymosodiadau nos Wener a sawl ymoodiad arall.

Cafodd ei gyfnither, Hasna Aitboulahcen ei lladd hefyd ar ôl tanio fest hunan-laddiad yn ystod cyrch gan yr heddlu ar dŷ yn ardal Saint-Denis o Ffrainc.

Ffôn yn arwain at y ddau

Cafodd yr heddlu eu harwain at y ddau ar ôl cael gwybod gan wlad o’r tu allan i Ewrop fod Abdelhamid Abaaoud ar y cyfandir ac ar ôl dod o hyd i ffôn oedd wedi cael ei adael mewn bin y tu allan i neuadd Bataclan, lle cafodd 89 o bobol eu lladd.

Yn ôl Prif Weinidog Ffrainc, Manuel Valls, roedd y brawychwyr wedi “cymryd mantais” o argyfwng y ffoaduriaid er mwyn dod i mewn i Ewrop.