Mae’r awdurdodau yn Nhwrci wedi arestio 11 o bobol a fu’n protestio yn erbyn uwch-gynhadledd y G20 sy’n cael ei chynnal yn ninas arfordirol Antalya.

Roedd pedwar o’r rheiny wedi codi placardiau y tu allan i derfynnell ym maes awyr Antalya ac, yn ol asiantaeth newyddion, yn ymgyrchwyr asgell chwith oedd wedi ysgrifennu ar eu placardiau, “UDA llofrudd dos allan o’r Dwyrain Canol”.

Fe gafodd y saith arall eu harestio yn ninas Istanbul, wedi iddyn nhw wrthdystio  o flaen swyddfeydd llysgenhadon yr Almaen a Phrydain.