Mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi cau atyniadau Twr Eiffel, amgueddfa’r Louvre a mannau twristaidd eraill yn ninas Paris. Fe fyddan nhw’n aros yn gaead nes y daw cyhoeddiad fel arall. Mae Disneyland Paris hefyd wedi cau.

Fe ddaw hyn yn sgil cyhoeddi tridiau o alaru cyhoeddus gan Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, neithiwr.

Mae Disneyland Paris, i’r dwyrain o Baris, yn un o brif atyniadau Ewrop gyfan ond fe ddaeth datganad heddiw yn dweud na fyddai’n agor ei gatiau “yn sgil y disgwyddiadau trasig diweddar yn Ffrainc, ac mewn cefnogaeth o’r gymuned a’r dioddefwyr”.