Oscar Pistorius
Mae Llys Apêl yn Ne Affrica wedi bod yn clywed  dadleuon erlynwyr sy’n pwyso am ddyfarniad o lofruddiaeth yn erbyn yr athletwr Oscar Pistorius am saethu ei gariad yn farw.

Fe fydd panel o bum barnwr yn penderfynu a ddylid newid ei ddyfarniad o ddynladdiad i lofruddiaeth. Fe allai’r barnwyr hefyd orchymyn cynnal achos newydd.

Gallai Oscar Pistorius wynebu  o leiaf 15 mlynedd yn y carchar os bydd yr apêl  yn llwyddo.

Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar y llynedd am ddynladdiad ei gariad, Reeva Steenkamp yn 2013.

Mae erlynwyr yn honni bod y barnwr yn yr achos y llynedd wedi gwneud camgymeriad ac y dylai fod wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth.

Mae Oscar Pistorius wedi gwadu ei fod wedi ceisio lladd ei gariad, gan gredu mai lleidr oedd hi pan daniodd gwn ati drwy ddrws yr ystafell ymolchi.

Ar ôl treulio 12 mis dan glo, cafodd ei ryddhau  fis diwethaf a’i symud i dŷ ei ewythr, lle mae wedi’i gyfyngu  am weddill ei ddedfryd.

Nid oedd yr athletwr yn y gwrandawiad heddiw.