Menna Elfyn
Mae’r gymdeithas o awduron sydd o blaid rhyddid mynegiant, PEN Rhyngwladol, wedi galw ar Lywodraeth Bangladesh i wneud mwy i warchod awduron y wlad, wedi i ddyn gael ei ladd a thri arall eu hanafu yno dros y penwythnos.

Fe gafodd y cyhoeddwr Faisal Arefin Dipan, 43 oed, ei ladd yn y brif ddinas yn Dhaka ddydd Sadwrn, ac mae’n debyg ei fod wedi wynebu bygythiadau i’w ladd cyn hynny.

Ychydig oriau ynghynt, fe gafodd tri arall eu hanafu’n ddifrifol, a hwythau’n flogwyr ac yn gyhoeddwyr seciwlar hefyd.

Mae PEN Rhyngwladol wedi galw am fesurau llymach i warchod hawliau awduron.

Fel Llywydd PEN Cymru, mae Menna Elfyn wedi dweud fod y digwyddiadau’n “codi cwestiynau” am y modd y mae’r Llywodraeth yn ymateb.

Dyma’r bumed digwyddiad yn erbyn awduron ym Mangladesh eleni, ac yn ôl Menna Elfyn “mae’n sefyllfa ddychrynllyd.”

‘Diogelwch i leisiau lleiafrifol’

Fe fu’r bardd, yr awdur a’r dramodydd o Gymru mewn cynhadledd PEN Rhyngwladol yn Quebec  bythefnos yn ôl, gan alw am wella’r mesurau dros warchod rhyddid mynegiant awduron.

“Er nad yw’r hyn sy’n digwydd ym Mangladesh yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill ar draws y byd,” fe ddywedodd nad oes digon yn cael ei wneud wrth ymchwilio i’r troseddau.

Esboniodd fod deddf ym Mangladesh sy’n golygu y gellir gweithredu yn erbyn pobol sy’n mynegi barn faleisus tuag at grefydd- “a dyna sydd wrth wraidd hyn,” meddai.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cadeirydd PEN Rhyngwladol, Salil Tripathi, “mae Llywodraeth Bangladesh wedi dangos brwdfrydedd anarferol wrth lansio erlyniadau yn erbyn blogwyr y mae eu hysgrifennu, yn ôl y llywodraeth, yn tramgwyddo teimladau crefyddol.”

Soniodd Menna Elfyn fod ganddi hithau ffrind a gafodd ei herlyn o Fangladesh, ac mae’n credu y dylai’r Llywodraeth “sicrhau diogelwch i’r lleisiau lleiafrifol, dadleuol ac i ysgrifennu dychmygus.”

“Mae hyn yn cael ei herio ar hyn o bryd gan rai gwladwriaethau sy’n ofnus ohono,” ychwanegodd gan ddweud y bydd PEN Cymru yn anfon neges o gydymdeimlad at PEN Bangladesh.

Cefndir

Fe gyhoeddodd Faisal Arefin Dipan, a’r tri arall waith y blogiwr Avijit Roy – a gafodd ei ladd ym mis Chwefror eleni.

Fe gyhoeddodd Faisal Arefin Dipan y llyfr Biswasher Virus  gan Avijit Roy sy’n cyfieithu i ‘Firws Ffydd’.