Mae Palesteiniad wedi’i saethu’n farw heddiw, ac mae heddlu Israel yn honni i hynny ddigwydd oherwydd ei fod yn cario cyllell mewn modd bygythiol wrth groesi rhwng y Lan Orllewin ac Irael.
Chafodd yr un Israeliad ei anafu yn y digwyddiad.
Dyma’r diweddara’ mewn cyfres o “ymosodiadau” gan Balesteiniaid ers canol mis Medi, ac mae cynnydd mawr wedi bod yn y gwrthdaro rhwng taflwyr cerrig Palesteinaidd a byddin Israel.
Mae 11 o Israeliaid wedi’u lladd yn ystod y gwrthdaro diweddara’ hwn, o gymharu â 67 o Balesteiniaid.