Mae tân mewn marchnad yn y Philipinas wedi lladd 15 o bobol, a 6 o’r rheiny’n blant.

Fe gafodd 13 o bobol eraill eu hanafu yn y fflamau a fu’n llosgi am dair awr yn ninas Zamboanga, porthladd pwysig rhyw 540 milltir i’r de o’r brifddinas, Manila.

Y gred ydi fod y tân wedi cynnau pan ddaeth sbarcs o polyn trydan isel a rhoi stondin gwerthu ymbarelau ar dân. Fe ledodd y fflamau trwy stoc o ddillad ail law oedd ar werth.

Ymhlith y rheiny gafodd eu lladd yr oedd gwerthwyr dillad oedd yn cysgu ar eu stondinau, a chwech o blant a oedd hefyd yn cysgu yn y farchnad er mwyn gallu targedu torfeydd ben bore.

Fe gafodd cyrff y meirwon eu cario i fosg gerllaw, cyn eu claddu.