David Thomas, 50, a'i fab Stephen, from 18, o Swindon, Wiltshire
Mae ymchwilwyr sydd wedi bod yn ceisio darganfod beth achosodd i gwch suddo oddi ar arfordir Canada, yn credu ei fod wedi cael ei ansefydlogi.

Bu farw pump o Brydeinwyr ar ôl i’r cwch droi drosodd ger Ynys Vancouver ddydd Sul yn ystod taith i wylio morfilod.

Yn ôl ymchwilwyr roedd y rhan fwyaf o’r teithwyr ar y dec uchaf ar yr ochr chwith pan gafodd y cwch ei daro gan don ar yr ochr dde.

Mae disgwyl i’r cwch gael ei archwilio heddiw.

Ymhlith y rhai fu farw roedd David Thomas, 50, a’i fab Stephen, 18, o  Swindon, Wiltshire.

Cafodd Nigel Hooker, 63, o Southampton, hefyd ei ladd ynghyd a Jack Slater, 76, a oedd yn byw yn Toronto, a Katie Taylor, 29, a oedd yn byw yn Whistler.

Mae dyn 27 oed o Sydney yn Awstralia yn parhau ar goll.

Mae’n debyg nad oedd yr un o’r teithwyr yn gwisgo siaced achub, yn ôl  crwner British Columbia, Matt Brown.