Y cwch a suddodd ger Ynys Vancouver
Fe suddodd cwch yn ystod taith i wylio morfilod ar arfordir Canada, ar ôl i don  achosi i’r cwch droi drosodd, yn ôl un o’r teithwyr oedd ar y cwch ar y pryd.

Bu farw pump o Brydeinwyr yn y digwyddiad.

Yn eu plith roedd David Thomas, 50, a’i fab Stephen, 17 oed, o Swindon, yn Wiltshire.

Roedd mam Stephen, Julie, ymhlith 21 o bobl gafodd eu hachub o’r cwch, Leviathan II, a oedd yn cludo 24 o deithwyr a thri aelod o’r criw.

Mae Bwrdd Diogelwch Trafnidiaeth Canada bellach wedi dechrau ei ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd ger Ynys Vancouver, oddi ar arfordir gorllewinol Canada ddydd Sul.

Ymhlith y rhai eraill fu farw roedd ymwelydd o Brydain, a dau Brydeiniwr a oedd yng byw yng Nghanada – dynes o British Columbia, a dyn o Ontario.

Mae dyn 27 oed o Sydney, Awstralia yn dal i fod ar goll.

Fe aeth y cwch, sy’n cael ei redeg gan y cwmni lleol, Jamie’s Whaling Station, i drafferthion rhyw 8 milltir oddi ar arfordir y dref bysgota, Tofino.

Ac mae adroddiadau bod ton wedi taro’r cwch gan wneud iddo droi drosodd yn syth, a dyna pam nad oedd amser i alw am gymorth.

“Hwyr yn y flwyddyn i fynd allan”

Yn ôl Rhian Dyer, Cymraes sydd wedi byw yn ninas Vancouver ers 1976, nid dyma’r adeg orau i fynd allan ar y môr.

“Yr unig beth ddyweda i’ gan ‘mod i wedi bod yn aros ar yr ochr yna o Ynys Vancouver, yw bod y stormydd yn rai eitha’ sylweddol yr adeg yma o’r flwyddyn, ac i ni mae’n hwyr yn y flwyddyn i feddwl eu bod nhw’n mynd allan ar y môr,” meddai wrth golwg360.

‘Ella na fysa fo’n rhywbeth byswn i’n ei wneud mor hwyr yn y flwyddyn.”

Dywedodd fod ardal Tofino yn hynod o boblogaidd am weithgareddau awyr agored, a bod llawer o bobl yn mynd allan i syrffio yno hefyd.

“Mae’r môr yn gallu bod yn wyllt ofnadwy yna… mae’r gwynt yn gallu bod yn elfen sylweddol.”

Ac mae tonnau mawr  yn bethau eitha cyffredin yno hefyd, meddai.