Mae o leiaf 100 o bobl wedi marw ar ol i ddaeargryn pwerus yn mesur 7.7 daro gogledd Afghanistan y bore yma.

Ropedd ei effaith wedi’i deimlo ar draws dinasoedd de Asia.

Cafodd o leiaf 94 o bobl eu lladd ym Mhacistan a 600 o bobl eraill eu hanafu, ac yn Afghanistan, bu farw 33 o bobl a chafod mwy na 200 eu hanafu.

Fe deimlwyd y dirgryniadau yn Kabul, New Delhi, a hefyd yn Islamabad, prifddinas Pacistan.

Roedd canolbwynt y daeargyn ym mynyddoedd Hindu Kyush, yn nhalaith Badakhshan, sy’n ffinio a Pacistan, Tajikistan a China.

Panig

Mae adroddiad teledu ym Mhacistan yn adrodd fod waliau’r adeiladau wedi siglo yn Islamabad, a bod pobol yn rhuthro allan o’r swyddfeydd mewn panig, gan adrodd darnau o’r Koran.

Mae Prif Weinidog Pacistan, Nawaz Sharif, wedi galw ar yr awdurdodau i ddefnyddio’u holl adnoddau i helpu’r dioddefwyr.