Y brotest yn y senedd ddoe
Mae heddwas a dau brotestiwr wedi’u hanafu mewn gwrthdystiad yn Cosofo – ddiwrnod wedi i’r wrthblaid dorri ar draws gwaith y senedd gyda nwy dagrau er mwyn protestio’n erbyn cytundebau gyda Serbia a Montenegro.

Fe gafodd 10 o bobol eu harestio wrth i rai cannoedd o gefnogwyr yr wrthblaid daflu bomiau petrol ac eitemau eraill y tu allan i adeilad y senedd yn y brifddinas, Pristina.

Wedi i ymdrechion i gynnal sesiwn y senedd fethu ddwywaith ddoe, fe gafodd trafodaethau eu cynnal mewn gofod arall yn yr adeilad – heb i’r wrthblaid fod yn bresennol.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau na chafodd neb ei anafu ddoe, a chafodd neb ei arestio chwaith.