Oscar Pistorius
Mae’r athletwr paralympaidd Oscar Pistorius, a gafodd ei garcharu am ladd ei gariad Reeva Steenkamp, wedi cael ei ryddhau o’r carchar yn Ne Affrica.

Mae Pistorius, 28, wedi treulio bron i flwyddyn dan glo ar ôl cael ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am ddynladdiad ei gariad yn 2013.

Cafodd yr athletwr ei ryddhau o garchar Kgosi Mampuru II yn Pretoria a bydd yn cael ei gyfyngu i dy ei ewythr am weddill ei ddedfryd.

Cafwyd Pistorius yn ddieuog o lofruddiaeth y llynedd ond mae erlynwyr wedi apelio yn erbyn y dyfarniad o ddynladdiad. Fe fyddan nhw’n ceisio sicrhau dyfarniad o lofruddiaeth yn y Goruchaf Lys yn Ne Affrica ar 3 Tachwedd.

Os yw’r beirniaid yn ei gael yn euog o lofruddiaeth, mae Pistorius yn wynebu dychwelyd i’r  carchar am 15 mlynedd.