Mae dwy ferch – un bum mlwydd oed a’r llall yn ddwyflwydd a hanner – wedi cael eu treisio yn ninas Delhi Newydd yn India.

Roedd yr ieuenga’n chwarae allan y tu allan i’w chartre’ pan gafodd hi ei threisio nos Wener. Fe ddaeth aelodau o’r teulu o hyd iddi’n gorwedd yn anymwybodol mewn parc, dair awr wedi iddi fynd ar goll.

Mae’r heddlu lleol wedi dwyn rhai dynion i’r ddalfa, ond does neb wedi’i arestio hyd yma.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu yn dweud eu bod yn holi tri dyn sydd wedi’u harestio mewn cysylltiad â threisio merch 5 mlwydd oed yn nwyrain Delhi nos Wener.

Fe ddaw’r ddau achos diweddara’ hyn gwta wythnos wedi i ferch 4 oed gael ei chanfod ger trac rheilffordd wedi iddi gael ei threisio a’i thorri â chyllell.