Mae Hwngari wedi cau’r ffin rhyngddi hi a Chroatia, er mwyn rhwystro ffoaduriaid rhag mynd o un wlad i’r llall fel y mynnon nhw.

Mae hyn yn creu panig ymysg y miloedd sydd wedi dianc rhag tlodi a rhyfel yn y Dwyrain Canol, Affrica ac Asia, yn y gobaith o gael bywyd gwell yn ngorllewin Ewrop.

Ers i’r ffin gael ei chau, mae Croatia yn arallgyfeirio miloedd o bobol – yn cynnwys merched a phlant mân sy’n socian yn dilyn glaw mawr – i gyfeiriad Slofenia yn y gorllewin. Anelu am Awstria a’r Almaen y mae’r ffoaduriaid, ond fe allai nifer mawr fod yn sownd yng Nghroatia ac ymhellach i’r dwyrain yn Serbia a Macedonia os na chân’ nhw fynd i mewn i Hwngari.

Ben bore heddiw, fe gyrhaeddodd nifer o fysiau yn llawn ffoaduriaid o Croatia, dre’ Petisovci ar y ffin yn Slofenia.