Mae heddlu Israel wedi saethu’n farw fachgen yn ei arddegau o Balesteina y maen nhw’n dweud oedd wedi tynnu cyllell arnyn nhw yn ninas Jerwsalem.

Mae ymosodwr honedig arall o Balesteina wedi’i saethu’n farw yn ninas Hebron ar y Lan Orllewinol. Yn gynharach heddiw, fe gadarnhaodd byddin Istrael fod cerddwr wedi lladd dyn Palesteinaidd oedd wedi ceisio ei drywanu yn Hebron.

Roedd yr Iddew wedi lladd y Palesteiniad cyn iddo allu ei niweidio, meddai’r fyddin.

A daeth cadarnhad o fewn y munudau diwetha’ fod trydydd dyn o Balesteina wedi’i saethu gan Iddewon sy’n honni ei fod am ymosod arnyn nhw.