Yn India, mae beth bynnag 15 o bobol oedd ar eu ffordd i briodas, wedi cacel eu lladd wedi i’r bws mini yr oedden nhw’n teithio yno fod mewn gwrthdrawiad â bws arall yn ne’r wlad.

Fe gafodd deg o bobol eraill eu hanafu ar y ffordd i dre’ Malakonda yn nhalaith Pradesh.

Roedd y ddau gerbyd yn goryrru pan ddigwyddodd y ddamwain, yn ôl yr heddlu. Roedd y bws mini’n cario tua 45 o bobol, tra’r oedd y cerbyd arall yn cario pedwar.

Roedd pob un o’r 15 a laddwyd yn teithio yn y bws mini, ac roedd y mwyafrif ohonyn nhw’n ferched a phlant.