Oscar Pistorius
Bydd yr athletwr Paralympaidd, Oscar Pistorius, yn cael ei ryddhau o’r carchar ddydd Mawrth a bydd yn gorfod aros yn ei gartref ar ôl cael ei ryddhau.

Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar yn Ne Affrica yn 2014 ar ôl ei gael yn euog o ddynladdiad am saethu ei gariad, Reeva Steenkamp drwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartref.

Roedd yr athletwr wedi dweud ei fod yn meddwl mai lleidr oedd y tu ôl i’r drws.

Ond yn dilyn y dyfarniad, fe wnaeth yr erlyniad apelio, gan ddweud y dylai fod wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth a chael cosb lymach.

Mae disgwyl gwrandawiad i’r achos ar 3 Tachwedd.

Mae wedi treulio 12 mis yn y carchar a bydd nawr yn treulio gweddill ei ddedfryd yn gaeth yn ei dŷ.