Nissan yr arth wen
Mae arth wen, a roddodd sioc enfawr i grŵp o ymfudwyr wrth iddyn nhw ddod wyneb yn wyneb â hi ar ôl ceisio dringo i mewn i’w lori, wedi cyrraedd ei chartref newydd yn Doncaster.

Roedd Nissan yr arth mewn traffig trwm yn Calais pan wnaeth grŵp o bobl lwyddo i agor drysau’r tryc a dringo i mewn – a’i gweld hi’n syllu arnyn nhw o’i chawell.

Roedd yr arth, sy’n 22 mis oed, ar ei ffordd o ddwyrain Ewrop i Barc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog yn Doncaster.

Roedd hi wedi hedfan o Foscow i Frankfurt yn yr Almaen ond roedd yn rhaid gwneud hanner olaf y daith mewn cerbyd.

‘Gwesteion annisgwyl’

Yn ôl Simon Marsh, rheolwr casglu anifeiliaid yn y parc, roedd y daith wedi bod yn ddidrafferth, heblaw am y broblem yng ngogledd Ffrainc pan gafodd Nissan “westeion annisgwyl yng nghefn y lori.”

“Yn amlwg, roedd mewn cawell, felly roedd popeth yn ddiogel, ond dwi’n meddwl cawson nhw sioc i weld arth wen. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw wedi disgwyl hynny pan wnaethon nhw agor drysau’r lori,” meddai.

“Mae’n dal i fod yn anifail mawr, er ei bod yn ddwy flwydd oed, a gall bod yn beryglus iawn.”

Mae Nissan bellach yn mwynhau bywyd yn y parc, ac mae’r staff yn paratoi i’w chyflwyno i Victor, sy’n 16 oed, a Pixel, sy’n ddwy flwydd oed.

Mae Victor yn un o’r eirth wen fwyaf yn Ewrop, ac yn pwyso 1,200 pwys.

Fe ddywedodd Simon Marsh fod taith Nissan wedi cymryd bron i flwyddyn i’w chynllunio, gyda rheolau lles llym yn eu lle drwy gydol y daith.