Cadeirydd Bwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd, Tjibbe Joustra, yn cyflwyno'r adroddiad terfynol gyda gweddillion awyren Malaysia Airlines yn y cefndir
Mae Bwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd wedi cadarnhau mai taflegryn gafodd ei gynhyrchu yn Rwsia oedd wedi achosi i awyren Malaysia Airlines MH17 daro’r ddaear yn yr Wcrain y llynedd.
Bu farw 298 o bobol, gan gynnwys 10 o Brydain, wrth i awyren Malaysia Airlines MH17 ddod i lawr mewn ardal o ddwyrain Wcráin ym mis Gorffennaf y llynedd.
Mae’r adroddiad yn ychwanegu na ddylai’r awyren fod wedi bod yn hedfan yno, ac y dylai’r Wcráin fod wedi cau’r gofod i deithiau awyrennau sifil. Ychwanegwyd nad oedd “neb wedi ystyried” y risg yn llawn.
Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y dylai gwledydd lle mae gwrthryfel yn digwydd “wneud mwy” yn y dyfodol i warchod awyrennau sy’n cludo teithwyr.
Ar y diwrnod hwnnw, roedd 160 o awyrennau eraill wedi hedfan dros ddwyrain yr Wcráin, ac roedd tair awyren fasnachol arall o fewn yr un ardal pan gafodd MH17 ei tharo.
‘Chwalu yn yr awyr’
Fe ddywedodd ymchwilwyr yr adroddiad fod y taflegryn wedi ffrwydro llai na metr i ffwrdd o gaban y peilotiaid, gan ladd tri o’r criw yn syth a thorri blaen yr awyren i ffwrdd.
Fe wnaeth yr awyren chwalu yn yr awyr a disgyn dros ardal o ddwyrain yr Wcráin a oedd wedi’i feddiannu gan wrthryfelwyr a oedd yn ymladd yn erbyn lluoedd y Llywodraeth yno ers Ebrill 2014.
Mae’r adroddiad hefyd yn honni y byddai’r holl deithwyr wedi marw mwy neu lai yn syth.
Rwsia
Ond, mewn cynhadledd arall ym Moscow fe wnaeth cynhyrchwyr y taflegryn gyflwyno adroddiad eu hunain yn ceisio amddiffyn cysylltiad y gwrthryfelwyr â’r ddamwain.
Mae Rwsia’n dweud mai lluoedd Llywodraeth yr Wcráin oedd yn debygol o fod wedi tanio’r taflegryn.
Yn y cyfamser mae Prif Weinidog yr Iseldiroedd Mark Rutte wedi galw ar Rwsia i gydweithredu’n llawn gyda’r ymchwiliad troseddol i’r digwyddiad.
Wrth wneud sylwadau am y tro cyntaf ynglŷn ag adroddiad terfynol Bwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd, dywedodd Mark Rutte mai un o’r prif flaenoriaethau yw “dod o hyd i ac erlyn y rhai sy’n gyfrifol.”
Y bore ma fe fu teuluoedd y rhai gafodd eu lladd yn y ddamwain awyren yn clywed canfyddiadau’r ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd.
Bu cadeirydd Bwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd, Tjibbe Joustra, yn esbonio casgliadau eu hadroddiad terfynol wrth y teuluoedd yn gyntaf, cyn ei gyhoeddi’n swyddogol.